Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2020
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6264
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1, 2, 4, 5 a 10. Tynnwyd cwestiynau 3 a 6-9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.25
Gan nad oedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu bod yn bresennol ar gyfer dechrau’r datganiad, cynigiodd y Llywydd symud i Eitem 4, cyn cymryd eitem 3. Nid oedd unrhyw Aelod yn gwrthwynebu.
Dechreuodd yr eitem am 15.55.
Y bwriad oedd i’r Gweinidog wneud ei ddatganiad drwy linc fideo, ond oherwydd anawsterau technegol, gwnaeth y Prif Weinidog y datganiad ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.
Dechreuodd yr eitem am 14.42
Dechreuodd yr eitem am 17.16
Dechreuodd yr eitem am 17.54
NDM7298 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.56
NDM7300 - Yr Arglwydd / Lord Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Gemau'r Gymanwlad Birmingham i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7306 – Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
1 |
16 |
39 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.15
Daeth y cyfarfod i ben am 18.16
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 18 Mawrth 2020